Mae rheoleiddiwr diogelu data’r Deyrnas Unedig yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall grym eu data personol wrth iddyn nhw ddysgu, chwarae a chymdeithasu ar-lein.
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi lansio cyfres o gynlluniau gwersi a thaflenni gwaith sydd â’r nod o ddysgu disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd sut i ddiogelu eu preifatrwydd ar-lein a sut y gallan nhw reoli’r hyn y mae cwmnïau a llwyfannau ar-lein yn ei wybod amdanyn nhw.
Dywedodd Emily Keaney, Cyfarwyddwr Strategaeth Reoleiddio’r ICO:
“Gan fod plant yn dysgu sut i ddefnyddio iPad cyn dysgu reidio beic, mae’n hanfodol eu bod yn dysgu sut i gadw eu data personol yn ddiogel. Bydd y cynlluniau hyn yn sicrhau bod plant y Deyrnas Unedig yn dysgu am werth eu henw, ble maen nhw’n byw, beth maen nhw’n ei hoffi a ble maen nhw’n mynd o ddechrau eu taith ddata.”
Mae’r adnoddau’n esbonio beth sy’n cyfrif fel data personol, sut i’w ddiogelu a sut i’w gadw’n breifat ar y cyfryngau cymdeithasol. Maen nhw’n ymdrin â’r cwricwlwm ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig a gellir eu lawrlwytho am ddim oddi ar wefan yr ICO.
Mae’r adnoddau’n rhan o waith yr ICO ar adeiladu ymwybyddiaeth o’r Cod Plant, sef set o safonau y mae’n rhaid i wasanaethau ar-lein eu dilyn os yw’n debygol y bydd plant yn eu defnyddio. Mae hynny’n cynnwys sefydlu haenau ychwanegol o ddiogelwch ar gyfer data plant.
Dywedodd Ms Keaney:
“Yn sgil cyflwyno’r Cod Plant fis Medi diwethaf, mae’n bwysicach nag erioed bod athrawon yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i ddysgu eu disgyblion am y pethau cadarnhaol a negyddol ynglŷn â rhannu data personol gyda gwefannau, apiau a gwasanaethau ar-lein.
“Gobeithio y bydd yr adnoddau gwersi hyn yn galluogi athrawon i gyflwyno’r pynciau hyn yn y dosbarth, a dechrau’r sgwrs ynghylch cadw’n ddiogel ar-lein.”
Bydd yr ICO yn llunio rhagor o adnoddau ynglŷn ag egwyddorion y Cod Plant er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth agor ap, ymweld â gwefan neu chwarae gêm ar-lein.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cod Plant, ewch i’n hyb pwrpasol ar y wefan neu anfonwch neges ebost at ein tîm Cod Plant yn childrenscode@ico.org.uk.
Nodiadau i Olygyddion
- Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn cynnal hawliau gwybodaeth er budd y cyhoedd, gan hybu natur agored ymysg cyrff cyhoeddus a phreifatrwydd data i unigolion.
- Mae gan yr ICO gyfrifoldebau penodol sydd wedi’u nodi yn Neddf Diogelu Data 2018, Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003.
- Cynhwysodd y Llywodraeth ddarpariaethau yn Neddf 2018 i greu safonau o’r radd flaenaf yn y byd sy’n darparu dulliau diogelu priodol i blant pan fyddan nhw ar-lein.
- Mae’r 15 o safonau yn y Cod Plant yn cael eu hategu gan y deddfau diogelu data presennol sy’n gyfreithiol orfodadwy ac sy’n cael eu rheoleiddio gan yr ICO.
- I gael rhagor o wybodaeth am God Plant yr ICO, ewch i’n gwefan.
- Rhoddodd Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU bwerau cryfach newydd i’r ICO.