Friday, March 29, 2024
Home > ICO > Yr ICO yn dirwyo tri chwmni £415,000 am marchnata niwsans

Yr ICO yn dirwyo tri chwmni £415,000 am marchnata niwsans

Mae’r Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi dirwyo tri chwmni wahanol cyfanswm o £415,000 am anfon marchnata niwsans i bobl am gyllid ceir, paneli solar a chynlluniau angladd.

Mae ‘Colour Car Sales Ltd (CCSL)’ o Stoke-on-Trent, yn gwmni cyfryngwr credyd sy’n cael ei ddefnyddio am gyllid ceir. Mae nhw wedi cael dirwy o £170,000 am ddanfon negeseuon tecsts sy’n cyfeirio pobl i nifer o wefannau cyllid ceir.

Yn ystod ei hymchwiliad, gwelodd yr ICO dystiolaeth fod y cwmni wedi danfon 3,650,194 o negeseuon i unigolion ar anogaeth CCSL. Er hynny, nid oedd yn bosibl i ddarganfod y rhif bendant o’r negeseuon a ddaeth i law tanysgrifwyr oherwydd dif ymgysylltiad CCSL’s â’r ICO.

Roedd y negeseuon wedi cael eu danfon gan y cwmni o Hydref 2018 i Ionawr 2020. Casglwyd y wybodaeth o gwynion a wnaed gan bobl a’u derbyniodd.

Mae ‘Solarwave of Grays’, Essex, wedi cael dirwy o £100,000 am wneud 73,217 o alwadau marchnata digymell am gynnal a chadw paneli solar rhwng Ionawr a Hydref 2020. Fe wnaeth y cwmni wneud y galwadau ffôn i bobl sydd wedi cofrestru efo’r ‘Telephone Preference Service (TPS)’ ac na ddylent fod wedi’u derbyn.

Mae’r cwynion a dderbyniwyd gan yr ICO a’r TPS yn awgrymu fod Solarwave yn anfoesgar ac yn ddyfal wrth wneud y galwadau, ac hefyd yn anwybyddu ceisiadau i stopio’r galwadau.

Fe wnaeth un person gwyno:

“… Dwi wedi gofyn i nhw stopio galw yn gynt. Dwi hefyd wedi trial anwbyddu’r galwadau trwy beidio ag ateb. Roedd y cwmni yn parhau i alw felly nes i ateb y ffôn ddoe a dweud wrthynt ‘eto ein bod wedi cofrestru gyda chi. Mae’n fwy anifyr gan ein bod bellach yn gyn-gyfeiriadur. Mae’r cwmnϊau ‘ma yn bane o fywydau pobl a mae angen i nhw stopio. Mae bywyd yn ddigon caled ar hyn o bryd!”

Mae LTH Holdings, cwmni marchnata ffôn o Gaerdydd wedi cael dirwy o £145,000 am wneud 1.4 miliwn o alwadau yn gwerthu cynlluniau angladd i bobl sydd hefyd wedi cofrestru efo’r TPS am flwyddyn rhwng Mai 2019 a Mai 2020. Cafodd yr ICO 41 o gwynion. Mae gan yr ICO adroddiadau ar-lein sy’n dweud fod LTH wedi mabwysiadu dulliau ymysodol, gorfodol a pherswadiol wrth wneud galwadau marchnata, sy’n peri pryder o ystyried y gynulleidfa darged fod yn bobl fregus.

Ym mhob achos, ni chafodd y cwmnϊau caniatâd dilys sy’n ofynnol i ddanfon marchnata uniongyrchol ac mae hyn yn erbyn y gyfraith. (Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig –(PECR).

Rhoddwyd Rhybuddion Gorfodi iddynt hefyd yn eu gorchymyn i roi’r gorau i farchnata nes bod caniatâd wedi’i sicrhau.

Dywedodd Andy Curry, Pennaeth yr Ymchwiliadau:

“Mae cwmnϊau sy’n peledu pobl gyda negeseuon a galwadau ffôn nad ydynt wedi gofyn amdanynt, i werthu cynhyrchion a gwasanaethau nad ydynt eu heisiau, nid yn unig yn niwsans ond gallent hefyd beri gofid gwirioneddol, yn enwedig i’r rhai sy’n fwyaf agored i newid. Dyna pam rydyn ni wedi cymryd camau y cadarn a ddywedwyd yma heddiw.

“Busnesau sy’n gwneud galwadau marchnata uniongyrchol sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr fod pobl wedi rhoi cyniatâd cyn danfon marchnata. Rhaid iddyn nhw hefyd wneud yn siwŵr i beidio galw pobl sydd wedi cofrestu efo’r TPS”

Pan roddid dirwyon, mae’r ICO yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr fe’u derbynnir i ddod â chwmnϊau i gyfrif ar rhan y cyhoedd.

“Ddylai cyfarwyddwyr cwmnϊau sy’n diystyru’r gyfraith fod yn sicr y byddwn yn mynd ar eu trywydd – dylai busnesau eraill gymryd sylw,”

ychwanegodd Andy.

Gallwch darllen mwy am waith yr ICO i adfer dirwyon yma.

Gall unrhywun sy’n derbyn marchnata niwsans gwyno i ni yma.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal hawliau gwybodaeth er lles y cyhoedd, gan annog cyrff cyhoeddus i fod yn agored a hybu preifatrwydd data i unigolion.
  2. Mae gan yr ICO gyfrifoldebau penodol sydd wedi’u nodi yn Neddf Diogelu Data 2018, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003.
  3. Mae’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (PECR) yn  rhoi hawliau preifatrwydd penodol i bobl mewn perthynas â chyfathrebu electronig. Ceir rheolau penodol ynghylch:
  • galwadau, negeseuon ebost, negeseuon testun a negeseuon ffacs at farchnata;
  • cwcis (a thechnolegau tebyg);
  • cadw gwasanaethau cyfathrebu’n ddiogel; a
  • phreifatrwydd cwsmeriaid o ran data ar draffig a lleoliadau, biliau fesul eitem, adnabod llinellau, a chofnodion mewn cyfeiriaduron.
  1. O dan y PECR, mae busnesau a’u swyddogion yn gallu wynebu dirwy o hyd at £500,000 gan yr ICO.
  2. Mae Cosbau Ariannol Sifil (CMPs) yn dod o dan hawl i apelio i’r Siambr Reoleiddiol Gyffredinol (Tribiwnlys Haen Gyntaf) yn erbyn gosod y gosb ariannol a/neu swm y gosb a bennir yn yr hysbysiad cosb ariannol.
  3. Mae unrhyw gosb ariannol yn cael ei thalu i Gronfa Gyfunol y Trysorlys ac nid yw’n cael ei chadw gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
  4. I roi gwybod am bryder i’r ICO , ffoniwch ein llinell gymorth 0303 123 1113 neu ewch i ico.org.uk/concerns.

Original Source